Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Equality, Local Government and Communities Committee
ELGC(5)-06-17 Papur 4/ Paper 4

 

Text Box: Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau
 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

28 Chwefror 2017

Annwyl Jon

Yn ddiweddar, clywsom dystiolaeth lafar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i helpu i lywio’r gwaith sydd ar y gweill gennym i edrych ar dlodi yng Nghymru. Mae’r trawsgrifiad ar gael yma.

Un o'r materion a drafodwyd oedd budd-daliadau heb eu hawlio [paragraffau 90 -97 Cofnod y Trafodion]. Tynnodd Llywodraeth Cymru sylw at brosiectau sy'n ceisio lleihau lefelau’r budd-daliadau heb eu hawlio fel Cyngor Da, Byw’n Well, a rhoi cyngor ar fudd-daliadau mewn lleoliadau gofal sylfaenol.

Rydym hefyd yn ymwybodol bod enghreifftiau o arfer da o fewn llywodraeth leol, fel ariannu cynghorwyr hawliau budd-dal [paragraffau 117 – 120 Cofnod y Trafodion]. Byddem yn croesawu rhagor o wybodaeth am unrhyw enghreifftiau o arfer da effeithiol sy'n helpu i sicrhau bod pobl yn hawlio'r holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.


 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cais hwn neu waith y pwyllgor yn y maes hwn, cysylltwch â Naomi Stocks, Clerc y Pwyllgor  naomi.stocks@cynulliad.cymru  neu 0300 200 6222.

Yn gywir

John Griffiths AC
Cadeirydd

 

 

 

 

 

 

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.